Rhif y ddeiseb: P-06-1367

 

Teitl y ddeiseb: Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Lannau Gogledd Llandudno

 

Geiriad y ddeiseb: Yn 2014, gollyngodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 50,000 mwy o dunelli o greigiau chwarel anarferol o fawr a heb eu profi ar Lannau’r Gogledd. Cafodd y traeth ei ddinistrio gan hyn. Mae bron yn amhosibl i lawer ei gyrraedd, ac yn beryglus os yw pobl yn ceisio. Mae’n falltod ar y dirwedd, ac yn niweidiol i’n prif economi, sef twristiaeth.

 

 


1.        Y cefndir

1.1.            Risg llifogydd yn Nhraeth y Gogledd, Llandudno

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod tua 245,000 o adeiladu mewn perygl o lifogydd yng Nghymru ac mae’n rhoi arfordir Llandudno yng nghategori ardal sydd â risg uchel o lifogydd o'r môr. Yn ôl rhagolygon yr hinsawdd, bydd lefel y môr yn codi rhwng 890 mm a 1,210 mm ar hyd arfordir Conwy erbyn 2120.

Mae strwythurau creigiau arfordirol yn amddiffyn rhag erydiad a chynnydd yn lefel y môr trwy amsugno egni’r tonnau. Mae amddiffynfeydd arfordirol presennol ar Draeth y Gogledd, Llandudno yn cynnwys traeth graean/coblau ac waliau llifogydd/waliau bychain.

Gwnaeth stormydd gaeaf 2013-14 achosi gostyngiad yn lefelau’r traeth a llifogydd ar y promenâd. Mewnforiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy tua 30,000m3 o goblau a graean i atgyflenwi'r traeth. Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, rhoddodd y Gweinidog ragor o fanylion am y grwynau a’r coblau a osodwyd yn hanesyddol ar Draeth y Gogledd, Llandudno, gan dynnu sylw at y canlynol ynghylch y coblau a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith atgyflenwi yn 2014:

Yr un deunydd ydoedd, o'r un chwarel wedi ei roi i'r un proffil dylunio. Profwyd y deunydd yn annibynnol ac ni oedd yn rhy fawr gan ei fod yn bodloni'r amlen raddio yn y dyluniad a nodwyd. Ni wnaeth gwaith 2014 unrhyw beth newydd dim ond disodli'r hyn a gollwyd o gynllun 2000 oherwydd dylanwadau llanw a stormydd.

1.2.          Twristiaeth

Mae Fforwm Arfordirol Llandudno ac aelodau'r cyhoedd wedi dangos cefnogaeth i draeth tywod gyda grwynau pren, i roi hwb i dwristiaeth yn yr ardal. Mae Cyngor Conwy yn adrodd bod twristiaeth yn cyfrif am bron i chwarter yr holl gyflogaeth yn yr ardal a’i bod yn cyfrannu tua £996 miliwn i’r economi leol bob blwyddyn, yn ôl amcangyfrifon cyn Covid. Yn ôl amcangyfrifon Cyngor Conwy, gwerth y sector twristiaeth yn Llandudno yw £384 miliwn ac mae’n cynnal dros 5,300 o swyddi (amcangyfrifon cyn Covid). Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, dywedodd y Gweinidog:

Mae Llandudno yn ffynnu o safbwynt twristiaeth ac nid yw traeth tywod, sef Traeth y Gorllewin, Llandudno, ond 0.75m i ffwrdd.

1.3.          Y cyd-destun polisi

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am lunio’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (y Strategaeth Genedlaethol). Cafodd y fersiwn ddiweddaraf o’r Strategaeth Genedlaethol ei gyhoeddi yn 2020. Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol. Ar gyfer Cyngor Conwy, nodir hyn yn Strategaeth Leol Conwy ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd. Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirolsy’n rhoi cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru ac Awdurdodau Rheoli Risg ar reoli risg llifogydd ac arfordiroedd yng Nghymru.

O dan Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, gall awdurdodau lleol wneud cais am gyllid i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dyrannu cyllid drwy'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol, sy'n ategu'r rhaglen graidd.

Ceir rhagor o wybodaeth yn y papur briffio hwn a baratowyd gan Ymchwil y Senedd.

1.4.          Camau gweithredu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Yn 2021-2022, sicrhaodd Cyngor Conwy arian drwy'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol ar gyfer achos busnes amlinellol, i bwyso a mesur opsiynau ar gyfer lleihau llifogydd yn yr ardal. Cynigiwyd bod y Cyngor yn gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 100% o gostau dylunio a datblygu'r cynllun, ac 85% o gostau adeiladu'r cynllun. Cynigiodd Cyngor Conwy ariannu 15% o'r costau adeiladu o adnoddau mewnol y Cyngor a phartneriaid allanol.

Ym mis Awst 2022, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Gyngor Conwy na ellid defnyddio’r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol i ariannu’r newid i dywod gan na fyddai hynny’n cynnig amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd, er gwaethaf cost uchel (bron i £24 miliwn, sy’n £17 miliwn yn fwy o gymharu â chodi wal y promenâd, a fyddai'n cynnig yr un lefel o amddiffyniad rhag llifogydd). Ym mis Medi 2022, cafodd Cyngor Conwy arian gan y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol i barhau â'r opsiwn nad oedd yn cynnwys tywod ar gyfer gwella amddiffynfeydd arfordirol.

Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, eglurodd y Gweinidog y gellid “rhoi traeth tywod ar ran o Draeth y Gogledd”, ond y byddai hyn y tu allan i gwmpas y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol, ac felly byddai “baich refeniw parhaus sylweddol” i Gyngor Conwy.

 

2.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Yn 2018, cyflwynodd Janet Finch-Saunders AS dri chwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn am i Lywodraeth Cymru ymrwymo i droi Traeth y Gogledd, Llandudno yn draeth tywod. Mewn ymateb, amlygodd Gweinidog yr Amgylchedd [bryd hynny] y ffaith mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw penderfynu ar yr ateb mwyaf priodol i leihau perygl llifogydd.

Yn y Cyfarfod Llawn ym mis Chwefror 2023, gofynnodd Janet Finch-Saunders AS i Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, am y camau yr oedd yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod amddiffynfeydd arfordirol a thraeth tywod yn cael eu gwarantu yn Llandudno. Mewn ymateb, dywedodd Julie James AS. y Gweinidog Newid Hinsawdd:

… mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid grant yn ddiweddar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddatblygu achos busnes llawn ar gyfer Llandudno, yn seiliedig ar gynnal a gwella’r amddiffynfa bresennol o goblau ar draeth y gogledd. Nid yw'r opsiwn i ailgyflenwi tywod yn darparu unrhyw fudd ychwanegol o ran llifogydd, a byddai'n costio llawer mwy i'r rhaglen rheoli perygl arfordirol, a dyna'r broblem. Felly, er fy mod yn deall yr hyn a ddywedwch am y traeth tywodlyd yn llwyr, diben y rhaglen rheoli risg arfordirol yw rheoli risg arfordirol; nid yw'n ymwneud ag atyniadau twristiaeth a gwerth esthetig arall. Nid wyf yn gwadu gwerth hynny; rwy'n dweud nad dyna yw diben y rhaglen.

Felly, os yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am gael opsiwn amgen ar gyfer tywod ar Draeth y Gogledd, Llandudno, mae gwir angen iddo chwilio am ffynonellau amgen o gyllid.

Yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mai 2023, disgrifiodd Janet Finch-Saunders AS y creigiau ar Draeth y Gogledd, Llandudno yn “wrth-dwristiaeth”.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.